Diolch am dynnu ein sylw at ymgynghoriad presennol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch y materion y dylai’r pwyllgor ystyried dros y cyfnod i ddod.

Hoffem groesawu eich sylwadau chi ac aelodau eraill eich pwyllgor yn ystod sesiwn ymgynghori yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ddydd Llun 1 Awst ynglŷn â’ch dymuniad i gynnal ymchwiliad i ddarlledu.

Fel y gwyddoch, y mae S4C yn wynebu cyfnod pwysig arall yn ei hanes, gan fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnal Adolygiad Annibynnol i gylch gorchwyl, atebolrwydd, llywodraethiant a threfniadau ariannu S4C yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Byddai S4C yn falch iawn o unrhyw gyfle i gyfrannu at ymchwiliad o’r fath, ac wrth gwrs, hoffem estyn gwahoddiad i chi fel pwyllgor i ymweld â’n pencadlys yng Nghaerdydd er mwyn deall mwy am waith S4C a’r heriau a’r cyfleon sy’n ein hwynebu fel yr unig sianel deledu Gymraeg.

Diolch eto i chi am y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a phob dymuniad da i chi fel Cadeirydd y pwyllgor.